Skip to main content

Welsh Language Standards - Summary of Standards

Safonau ar gyfer gohebiaeth a anfonir ac a dderbynnir gan gorf

Ymatebion i ohebiaeth

Safon 1

Os ydych chi’n derbyn gohebiaeth gan unigolyn yn Gymraeg, rhaid i chi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai fod yr unigolyn wedi nodi nad oes angen ateb yn Gymraeg.

Gohebiaeth sy’n mynd allan

Gohebiaeth ag unigolyn

Safon 2

Pan fyddwch chi’n gohebu ag unigolyn am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn a ydynt am gael gohebiaeth gennych yn Gymraeg. Os ydynt, rhaid inni

  1. cadw cofnod o’r cais,
  2. gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen, ac,
  3. anfon unrhyw ffurflenni yn Gymraeg.

Safon 3

Pan fyddwch chi’n anfon gohebiaeth wedi’i gyfeirio at ddau unigolyn sy’n aelodau o’r un cartref, rhaid ichi ofyn iddynt a ydynt am dderbyn gohebiaeth gennych yn Gymraeg; ac os:

  1. bydd y ddau unigolyn yn ymateb i ddweud eu bod am dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg, rhaid i chi gadw cofnod o’r dymuniad hwnnw a gohebu yn Gymraeg o hynny ymlaen wrth anfon gohebiaeth wedi’i chyfeirio at y ddau unigolyn hynny;
  2. os bydd un (ond nid y ddau) o’r cartref (er enghraifft, rhieni plentyn) i’r rhai sy’n ymateb i ddweud eu bod am dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg, rhaid i chi gadw cofnod o’r dymuniad hwnnw a darparu fersiwn Cymraeg o ohebiaeth o hynny ymlaen wrth anfon gohebiaeth wedi’i chyfeirio at y ddau unigolyn hynny.
  3. pan fyddwch chi’n gohebu â sawl person (er enghraifft, pan fyddwn ni’n anfon cylchlythyr, neu anfonwch yr un llythyr at nifer o gartrefi.

Safon 4

Pan fyddwch chi’n anfon yr un ohebiaeth i sawl person, rhaid i chi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth ar yr un pryd ag y byddwch chi’n anfon unrhyw fersiwn Saesneg.

Safonau cyffredinol yn ymwneud â gohebiaeth

Safon 5

Os nad ydych chi’n gwybod a yw unigolyn yn dymuno derbyn gohebiaeth gennych chi yn Gymraeg, pan fyddwch chi’n gohebu â’r person hwnnw, rhaid i chi ddarparu fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth.

Safon 6

Os byddwch chi’n cynhyrchu fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg cyfatebol o ohebiaeth, ni ddylech drin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 7

Rhaid i chi ddatgan:

  1. mewn gohebiaeth, a
  2. mewn cyhoeddiadau a hysbysiadau sy’n gwahodd pobl i ymateb i chi neu i ohebu â chi, eich bod yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
Safonau sy’n ymwneud â galwadau a wneir ac a dderbynnir gan gorf

Galwadau ffôn a wneir i brif rif cyswllt y corff ac i unrhyw linellau cymorth neu ganolfannau galwadau

Safon 8

Pan fydd unigolyn yn cysylltu â chi ar eich prif rif (neu rifau) ffôn, neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i chi gyfarch yr unigolyn yn Gymraeg.

Safon 9

Pan fydd unigolyn yn cysylltu â chi ar eich prif rif (neu rifau) ffôn, neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i chi hysbysu’r unigolyn bod gwasanaeth iaith Gymraeg ar gael.

Safon 10

Pan fydd unigolyn yn cysylltu â chi ar eich prif rif (neu rifau) ffôn, neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, mae’n rhaid i chi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei gyfanrwydd os mai dyna ddymuniad yr unigolyn (lle bo angen trwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg).

Safon 11

Pan fydd unigolyn yn cysylltu â chi ar eich prif rif (neu rifau) ffôn, neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i chi ymdrin â’r unigolyn yn Gymraeg os mai dyna ddymuniad yr unigolyn tan y fath adeg â:

  1. mae angen trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg a all ddarparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a
  2. nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 12

Pan fyddwch yn hysbysebu rhifau ffôn, rhifau llinell gymorth neu wasanaethau canolfan alwadau, rhaid i chi beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safon 13

Os byddwch chi’n cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif (neu rifau) ffôn, ar unrhyw rifau llinell gymorth neu ganolfannau galwadau, rhaid i’r rhif ffôn ar gyfer y gwasanaeth Cymraeg fod yr un fath ag ar gyfer y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.

Safon 14

Pan fyddwch chi’n cyhoeddi eich prif rif ffôn, neu unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau gwasanaeth canolfan alwadau, rhaid ichi nodi (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Safon 15

Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer ymdrin â galwadau ffôn, rhaid i chi sicrhau nad yw’r dangosyddion perfformiad hynny yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.

Safon 16

Rhaid i’ch prif wasanaeth (neu wasanaethau) ateb galwadau ffôn hysbysu pobl sy’n galw, yn Gymraeg, y gallant adael neges yn Gymraeg.

Safon 17

Pan nad oes gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif (neu rifau) ffôn, neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu ganolfannau galwadau, rhaid i chi hysbysu pobl sy’n galw yn Gymraeg (trwy neges awtomataidd neu fel arall), pan fydd gwasanaeth iaith Gymraeg ar gael.

Safon 18

Os bydd unigolyn yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau’r staff), ac mae’r unigolyn hwnnw am dderbyn gwasanaeth yn Gymraeg, rhaid i chi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd (os oes angen trwy drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg).

Safon 19

Os bydd unigolyn yn cysylltu ag un o’ch adrannau ar rif ffôn llinell uniongyrchol (gan gynnwys ar rifau llinell uniongyrchol aelodau’r staff), ac mae’r unigolyn hwnnw’n dymuno derbyn gwasanaeth yn Gymraeg, rhaid i chi ddelio â’r alwad yn Gymraeg hyd at y fath adeg:

  1. mae angen trosglwyddo’r alwad i aelod o staff nad yw’n siarad Cymraeg a all ddarparu gwasanaeth ar bwnc penodol; a
  2. nad oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

Safon 20

Pan fydd rhywun yn cysylltu â chi ar rif llinell uniongyrchol (boed ar rif llinell uniongyrchol adran neu ar linell uniongyrchol aelod o staff), rhaid i chi sicrhau, wrth gyfarch yr unigolyn, nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg.

Galwadau ffôn a wneir gan gorf

Safon 21

Pan fyddwch chi’n ffonio unigolyn am y tro cyntaf, rhaid i chi ofyn a ydynt am dderbyn galwadau ffôn gennych yn Gymraeg, ac os ydynt am wneud hynny rhaid i chi gadw cofnod o’r dymuniad hwnnw, a chynnal galwadau ffôn a wneir iddynt yn Gymraeg o hynny ymlaen.

Corff sy’n delio â galwadau ffôn trwy ddefnyddio system awtomataidd

Safon 22

Rhaid i unrhyw systemau ffôn awtomataidd sydd gennych chi ddarparu’r gwasanaeth awtomataidd cyflawn yn Gymraeg.

Safonau sy’n ymwneud â chorff sy’n cynnal cyfarfodydd nad ydynt ar agor i’r cyhoedd

Cyfarfodydd rhwng corff ac un unigolyn gwadd arall

Safon 23

Os byddwch chi’n gwahodd un unigolyn yn unig i gyfarfod, bydd rhaid i chi gynnig cynnal y cyfarfod yn Gymraeg; ac os ydynt yn gofyn am hyn, rhaid i chi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu gyfiethu’n olynol).

Safon 24

Os byddwch chi’n gwahodd un unigolyn yn unig i gyfarfod, bydd rhaid i chi ofyn a ydynt am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, a rhoi gywbod y byddwch, os oes angen, yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Safon 24B

Os ydych chi wedi gwahodd un unigolyn yn unig i gyfarfod ac maent yn eich hysbysu eu bod am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae’n rhaid i chi drefnu i wasanaeth cyfieithu’n olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg fod ar gael yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

Cyfarfodydd rhwng corff ac mwy nag un unigolyn gwadd arall

Safon 25

Os byddwch chi’n gwahodd mwy nag un unigolyn i gyfarfod, bydd rhaid i chi ofyn i bob unigolyn a ydynt am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

Safon 25A

Os ydych chi wedi gwahodd mwy nag un unigolyn i gyfarfod, a bod o leiaf 10% (ond llai na 100%) o’r bobl a wahoddwyd wedi eich hysbysu eu bod am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae’n rhaid i chi drefnu i wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg fod ar gael yn y cyfarfod.

Safon 25B

Os ydych chi wedi gwahodd mwy nag un unigolyn i gyfarfod, a bod o leiaf 20% (ond llai na 100%) o’r bobl a wahoddwyd wedi eich hysbysu eu bod am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae’n rhaid i chi drefnu i wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg fod ar gael yn y cyfarfod.

Safon 25C

Os ydych chi wedi gwahodd mwy nag un unigolyn i gyfarfod, a bod o leiaf 30% (ond llai na 100%) o’r bobl a wahoddwyd wedi eich hysbysu eu bod am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae’n rhaid i chi drefnu i wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg fod ar gael yn y cyfarfod.

Safon 25D

Os ydych chi wedi gwahodd mwy nag un unigolyn i gyfarfod ac mae’r holl unigolion a wahoddwyd wedi’ch hysbysu eu bod am ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, mae’n rhaid i chi drefnu i wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg fod ar gael
yn y cyfarfod (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb gymorth gwasanaeth cyfieithu).

Safonau sy’n ymwneud â chyfarfodydd a drefnir gan gorff sydd ar agor i’r cyhoedd

Safon 26

Os trefnwch gyfarfod sydd ar agor i’r cyhoedd, rhaid i chi ddatgan ar unrhyw hysbysebion sylweddol arno, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, y bydd croeso i unrhyw
un sy’n mynychu ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

Safon 27

Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod y byddwch chi’n ei drefnu sydd ar agor i’r cyhoedd, rhaid i chi anfon y gwahoddiadau yn Gymraeg.

Safon 28

Os byddwch chi’n gwahodd pobl i siarad mewn cyfarfod y byddwch chi’n ei drefnu sydd ar agor i’r cyhoedd mae’n rhaid i chi:

  1. ofyn i bob unigolyn a wahoddwyd i siarad a yw ef neu hi’n dymuno defnyddio’r Gymraeg, ac,
  2. os yw’r unigolyn hwnnw (neu o leiaf un o’r unigolion hynny) wedi eich hysbysu ei fod ef neu hi yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, darparu wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfarfod yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 29

Os trefnwch gyfarfod sydd ar agor i’r cyhoedd, rhaid i chi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid i chi hysbysu’r rhai hynny sy’n bresennol yn y Gymraeg ac ar lafar:

  1. bod croeso iddynt ddefnyddio’r Cymraeg, a
  2. bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Safon 30

Os byddwch yn arddangos unrhyw ddeunydd ysgrifenedig mewn cyfarfod y byddwch chi’n ei drefnu sydd ar agor i’r cyhoedd, rhaid i chi sicrhau bod y deunydd yn cael ei arddangos yn Gymraeg, ac ni ddylech drin unrhyw destun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

Safonau sy’n ymwneud â digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorf

Safon 31

Os trefnwch ddigwyddiad cyhoeddus, neu os ariannwch o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid i chi sicrhau, wrth hyrwyddo’r digwyddiad, nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg (er enghraifft, yn y modd mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu ei gyhoeddi).

Safon 32

Os trefnwch ddigwyddiad cyhoeddus, neu os ariannwch o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, rhaid i chi sicrhau na chaiff yr iaith Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â’r gwasanaethau a gynigir i bobl sy’n mynychu’r digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir yn y digwyddiad).

Safon sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd a hysbysebu corf

Safon 33

Rhaid cynhyrchu unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu hysbysebu a gynhyrchir gennych yn Gymraeg, ac os ydych chi’n cynhyrchu’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i chi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol nag yr ydych yn trin y fersiwn Saesneg. 

Safonau sy’n ymwneud â chorff sy’n arddangos deunydd yn gyhoeddus

Safon 34

Rhaid arddangos unrhyw ddeunydd a ddangoswch yn gyhoeddus yn Gymraeg, a rhaid i chi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg.

Safon 35

Rhaid arddangos unrhyw ddeunydd a ddangoswch mewn arddangosfa gyhoeddus a drefnir gennych yn Gymraeg, a rhaid i chi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. 

Safonau sy’n ymwneud â chorff sy’n cynhyrchu a chyhoeddi dogfennau

Safon 36

Rhaid cynhyrchu unrhyw ddogfennau a gynhyrchwch at ddefnydd y cyhoedd yn Gymraeg.

Safon 37

Os byddwch chi’n cynhyrchu’r dogfennau dilynol, bydd yn rhaid i chi eu cynhyrchu yn Gymraeg:

  1. agendâu, cofnodion a phapurau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n ymwneud â chyfarfodydd y Bwrdd neu’r Cyngor;
  2. agendâu, cofnodion a phapurau eraill ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sydd ar agor i’r cyhoedd.

Safon 38

Rhaid cynhyrchu unrhyw drwydded, caniatâd neu dystysgrif a gynhyrchir gennych yn Gymraeg.

Safon 39

Rhaid cynhyrchu unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn a gynhyrchir gennych er mwyn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd yn Gymraeg.

Safon 40

Os byddwch chi’n cynhyrchu’r dogfennau dilynol, ac maent ar gael i’r cyhoedd, rhaid i chi eu cynhyrchu yn Gymraeg:

  1. polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol;
  2. canllawiau a chodau ymarfer;
  3. papurau ymgynghori.

Safon 41

Rhaid cyhoeddi unrhyw reolau a gyhoeddwch sy’n berthnasol i’r cyhoedd yn Gymraeg.

Safon 42

Pan fyddwch yn cyhoeddi unrhyw ddatganiad i’r wasg, bydd yn rhaid i chi ei gyhoeddi yn Gymraeg ac, os oes fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o ddatganiad, rhaid i chi gyhoeddi’r ddwy fersiwn ar yr un pryd.

Safon 43

Os byddwch chi’n cynhyrchu dogfen sydd ar gael i’r cyhoedd, ac nad oes unrhyw safon arall wedi gofyn ichi gynhyrchu’r ddogfen yn Gymraeg, rhaid i chi ei chynhyrchu yn Gymraeg:

  1. os yw pwnc y ddogfen yn awgrymu y dylid ei chynhyrchu yn Cymraeg, neu
  2. os yw’r gynulleidfa a ragwelir, a’u disgwyliadau, yn awgrymu y dylid cynhyrchu’r ddogfen yn Gymraeg.

Safon 44

Os byddwch chi’n cynhyrchu dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg (boed yn fersiynau ar wahân neu beidio), rhaid i chi beidio â thrin unrhyw fersiwn Cymraeg yn llai ffafriol nag yr ydych yn trin y fersiwn Saesneg.

Safon 45

Os byddwch chi’n cynhyrchu fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg ar wahân o ddogfen, rhaid i chi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn nodi’n glir fod y ddogfen ar gael yn Gymraeg hefyd.

Safonau sy’n ymwneud â chorff sy’n cynhyrchu a chyhoeddi ffurflenni

Safon 46

Rhaid cynhyrchu unrhyw ffurflen y trefnwch ei bod ar gael i’r cyhoedd yn Gymraeg.

Safon 46A

Os byddwch chi’n cynhyrchu fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg ar wahân o ffurflen, rhaid i chi sicrhau bod y fersiwn Saesneg yn nodi’n glir fod y ffurflen ar gael yn Gymraeg hefyd.

Safon 46B

Os byddwch chi’n cynhyrchu ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg (boed yn fersiynau ar wahân neu beidio), rhaid i chi sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg, a rhaid i chi beidio â gwahaniaethu rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg mewn perthynas ag unrhyw ofynion sy’n berthnasol i’r ffurflen (er enghraifft mewn perthynas ag unrhyw derfyn amser ar gyfer cyflwyno’r ffurflen, neu mewn perthynas â’r amser a ganiateir i ymateb i gynnwys y ffurflen).

Safon 47

Os byddwch chi’n nodi gwybodaeth ymlaen llaw ar fersiwn Gymraeg o ffurflen (er enghraifft, cyn ei hanfon at aelod o’r cyhoedd er mwyn iddo neu iddi wirio’r cynnwys neu lenwi gweddill y ffurflen), rhaid i chi wneud yn siŵr bod y wybodaeth rydych chi’n ei nodi ymlaen llaw yn Gymraeg.

Safonau sy’n ymwneud â gwefannau a gwasanaethau ar-lein corf

Gwefannau a gyhoeddir gan gorf

Safon 48

Rhaid i chi sicrhau:

  1. bod testun pob tudalen eich gwefan ar gael yn Gymraeg,
  2. mae pob tudalen Gymraeg ar eich gwefan yn gwbl weithredol, ac (c) nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ar eich gwefan.

Safon 49

Rhaid i chi sicrhau:

  1. bod testun hafan eich gwefan ar gael yn Gymraeg,
  2. mae unrhyw destun Cymraeg ar eich hafan (neu, lle bo’n berthnasol, eich hafan Gymraeg) yn gwbl weithredol, ac
  3. nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hafan eich gwefan.

Safon 50

Rhaid ichi sicrhau, pan fyddwch yn cyhoeddi tudalen newydd ar eich gwefan neu wrth ddiwygio tudalen:

  1. mae testun y dudalen honno ar gael yn Gymraeg, neu
  2. mae unrhyw fersiwn Gymraeg o’r dudalen honno yn gwbl weithredol, ac
  3. nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â’r dudalen honno.

Safon 51

Os oes gennych dudalen we Gymraeg sy’n cyfateb i dudalen we Saesneg, rhaid i chi ddatgan yn glir ar y dudalen we Saesneg bod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid i chi ddarparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.

Safon 52

Rhaid i chi ddarparu’r rhyngwyneb a dewislenni ar bob tudalen eich gwefan yn Gymraeg.

Apiau a gyhoeddir gan gorf

Safon 53

Rhaid i’r holl apiau a gyhoeddwch weithredu’n llawn yn Gymraeg, ac mae’n rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg mewn perthynas â’r ap hwnnw

Safonau sy’n ymwneud â defnydd corff o gyfryngau cymdeithasol

Safon 54

Pan ddefnyddiwch gyfryngau cymdeithasol, rhaid i chi beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg.

Safon 55

Os bydd unigolyn yn cysylltu â chi trwy gyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid i chi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb).

Safon yn ymwneud â pheiriannau hunanwasanaeth

Safon 56

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw beiriannau hunanwasanaeth sydd gennych yn gweithredu’n llawn yn Gymraeg, ac mae’n rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg mewn perthynas â’r peiriant hwnnw

Safonau sy’n ymwneud ag arwyddion a arddangosir gan gorf

Safon 57

Pan fyddwch chi’n codi arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro), rhaid arddangos unrhyw destun a arddangosir ar yr arwydd yn Gymraeg (boed ar yr un arwydd rydych yn arddangos testun Saesneg cyfatebol
arno neu ar arwydd ar wahân); ac os yw’r un testun yn cael ei arddangos yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i chi beidio â thrin y testun Cymraeg yn llai ffafriol na’r testun Saesneg.

Safon 58

Pan fyddwch chi’n codi arwydd newydd neu’n adnewyddu arwydd (gan gynnwys arwyddion dros dro) sy’n cyfleu’r un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid gosod y testun Cymraeg fel ei fod yn debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

Safon 59

Rhaid ichi sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant.

Safonau sy’n ymwneud â chorff sy’n derbyn ymwelwyr yn ei adeiladau

Safon 60

Rhaid i unrhyw wasanaeth derbyn sydd ar gael yn Saesneg gennych fod ar gael yn Gymraeg hefyd, ac rhaid peidio â thrin unrhyw unigolyn sy’n gofyn am wasanaeth derbyn iaith Gymraeg yn llai ffafriol nag unigolyn sydd angen gwasanaeth derbyn iaith Saesneg.

Safon 61

Os trefnwch ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw i unigolyn a fydd yn golygu y byddant yn dod i’ch derbynfa, mae’n rhaid ichi ofyn a ydynt am dderbyn gwasanaeth derbyn Cymraeg (oni bai eich bod eisoes yn gwybod).

Safon 61A

Mae’n rhaid i chi ddarparu gwasanaeth derbyn iaith Gymraeg wyneb yn wyneb i unigolyn yn eich derbynfa os ydych chi wedi trefnu ymweliad neu apwyntiad ymlaen llaw a’ch bod wedi cael gwybod eu bod am dderbyn y gwasanaeth yn Gymraeg, neu (b) eich bod eisoes yn ymwybodol eu bod yn dymuno derbyn y gwasanaeth yn Gymraeg.

Safon 62

Os nad oes gennych unrhyw wasanaeth derbyn wyneb yn wyneb ar gael yn yr iaith Gymraeg, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth derbyn Cymraeg ar gael dros ffôn yn eich derbynfa.

Safon 63

Mae’n rhaid i chi arddangos arwydd yn eich derbynfa sy’n datgan (yn Gymraeg) bod croeso i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa.

Safon 64

Mae’n rhaid ichi sicrhau bod staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbyn yn y Gymraeg yn gwisgo bathodyn i gyfleu hynny.

Safonau sy’n ymwneud â hysbysiadau a wneir gan gorf

Safon 65

Rhaid arddangos unrhyw hysbysiad a gyhoeddwch neu a ddangoswch yn Gymraeg, a rhaid i chi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg.

Safon 66

Pan fyddwch chi’n cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad sy’n cynnwys testun Cymraeg yn ogystal â thestun Saesneg, rhaid gosod y testun Cymraeg fel ei fod yn debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf.

Safonau sy’n ymwneud â chorff sy’n dyfarnu grantiau

Safon 67

Rhaid cyhoeddi unrhyw ddogfennau a gyhoeddwch sy’n perthyn i geisiadau am grant yn Gymraeg, a rhaid i chi beidio â thrin fersiwn iaith Gymraeg o’r fath ddogfennau yn llai ffafriol na fersiwn iaith Saesneg.

Safon 68

Pan fyddwch chi’n gwahodd ceisiadau am grant, rhaid i chi ddatgan yn y gwahoddiad y gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac na chaiff unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Safon 68A

Rhaid i chi beidio â thrin ceisiadau am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ac mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer hysbysu ymgeiswyr o benderfyniadau).

Safon 69

Os derbyniwch gais am grant yn Gymraeg a bod angen cyfweld ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid i chi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r ymgeisydd yn dymuno hynny, mae’n rhaid i chi gynnal y cyfweliad yn Cymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu olynol).

Safon 70

Os derbyniwch gais am grant yn Gymraeg a bod angen cyfweld â’r ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais, rhaid i chi:

  1. gynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg i alluogi’r ymgeisydd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y cyfweliad, ad
  2. os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r iaith Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 71

Pan fyddwch chi’n hysbysu ymgeisydd am eich penderfyniad mewn perthynas â chais am grant, rhaid i chi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg.

Safonau sy’n ymwneud â chorff sy’n dyfarnu contractau

Safon 72

Rhaid cyhoeddi unrhyw wahoddiadau i dendro am gontract a gyhoeddwch yn Gymraeg, a rhaid i chi beidio â thrin fersiwn iaith Gymraeg o unrhyw wahoddiad yn llai ffafriol na fersiwn iaith Saesneg.

Safon 73

Pan fyddwch chi’n cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, rhaid i chi ddatgan yn y gwahoddiad y gellir cyflwyno tendrau yn Gymraeg ac na chaiff tendr a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.

Safon 73A

Rhaid i chi beidio â thrin tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau, ac mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer hysbysu tendrwyr o benderfyniadau).

Safon 74

Os derbyniwch dendr yn Gymraeg a bod angen cyfweld tendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr, rhaid i chi gynnig cynnal y cyfweliad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r tendrwr yn dymuno hynny, mae’n rhaid i chi gynnal y cyfweliad yn Cymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu olynol).

Safon 75

Os derbyniwch dendr yn Gymraeg a bod angen cyfweld â’r tendrwr fel rhan o’ch asesiad o’r tendr mae’n rhaid i chi:

  1. gynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg i alluogi’r tendrwr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a
  2. os yw’r tendrwr yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu).

Safon 76

Pan fyddwch chi’n hysbysu tendrwr am eich penderfyniad mewn perthynas â thendr, rhaid i chi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y tendr yn Gymraeg.

Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth am wasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorf

Safon 77

Rhaid i chi hyrwyddo unrhyw wasanaethau Cymraeg rydych yn eu darparu, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg.

Safon 78

Os ydych chi’n darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth a ddarperir gennych yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen a gynhyrchwch, neu’r wefan a gyhoeddwch, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg ddatgan hefyd bod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg.

Safon sy’n ymwneud â hunaniaeth gorfforaethol corf

Safon 79

Pan fyddwch yn llunio, adolygu neu gyflwyno’ch hunaniaeth gorfforaethol, rhaid i chi beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg.

Safonau sy’n ymwneud â chyrsiau a gynigir gan gorf

Safon 80

Os ydych chi’n cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd, mae’n rhaid i chi ei gynnig yn Gymraeg.

Safon 81

Os byddwch chi’n cynnig cwrs addysg sy’n agored i’r cyhoedd ac sydd wedi’i anelu’n benodol at bobl 18 oed neu’n iau, mae’n rhaid i chi ei gynnig yn Gymraeg.

Safon 82

Os byddwch chi’n datblygu cwrs addysg sydd i’w gynnig i’r cyhoedd, rhaid i chi asesu’r angen i’r cwrs hwnnw gael ei gynnig yn Gymraeg; a rhaid ichi sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gyhoeddi ar eich gwefan.

Safon yn ymwneud â systemau annerch y cyhoedd a ddefnyddir gan gorf

Safon 83

Pan fyddwch chi’n cyhoeddi neges dros system annerch y cyhoedd, rhaid i chi wneud y cyhoeddiad hwnnw yn Gymraeg ac, os yw’r cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn Gymraeg yn gyntaf.